Hyd yn hyn mae 13 o bobol wedi’u cael yn euog o geisio hawlio arian o gronfa Tŵr Grenfell trwy dwyll gwerth dros £630,000.

Yn yr achos diweddaraf, cafodd Sharife Elouahabi, 38, ei garcharu am chwe blynedd ar ôl ceisio hawlio £103,475.60 am lety a chymhorthdal dros gyfnod o flwyddyn rhwng Mehefin 23 y llynedd a Mehefin 25 eleni.

Roedd e’n honni ei fod e’n byw mewn fflat ar unfed llawr ar hugain y tŵr yn Llundain, lle bu farw teulu cyfan.

Ond daeth yr heddlu i wybod nad oedd Sharife Elouahabi yn byw yn y tŵr.

Bu farw 72 o bobol yn y tân yng ngorllewin Llundain ar Fehefin 14 y llynedd.

Y rhai sydd wedi’u cael yn euog

Hyd yn hyn, mae 13 o bobol wedi’u cael yn euog:

– Anh Nhu Nguyen, 53, o Bromley, de-ddwyrain Llundain – £11,270

– Joyce Msokeri, 47, o Sutton, de-orllewin Llundain – £19,000

– Mohammad Ali Gamoota, 32, o Pimlico, canol Llundain – £6,264

– Elaine Douglas, 52 – £67,125.35

– Tommy Brooks, 52 – £58,396.89

– Derrick Peters, 58 – £40,000

– Antonio Gouveia, 33 – £53,456.76

– Yonatan Eyob, 26 – £86,831

– Jenny McDonagh, 39, o Abbey Wood, de-ddwyrain Llundain – £62,000

– Mohammed Syed Rinku, 46 – £5070.26

– Koffi Kouakou, 53, o Chelsea, de-orllewin Llundain – tros £30,000

– Sharife Elouahabi, 38 – £103,475.60

– Abdelkarim Rekaya, 28, o Chelsea, de-orllewin Llundain – £88,183.70