Mae myfyriwr o wledydd Prydain a gafodd ei gyhuddo o ysbïo yn yr Emiraethau Arabaidd Unedig wedi cael ei garcharu am oes.

Fe gafodd Matthew Hedges, 31, myfyrwyr PhD ym Mhrifysgol Durham, ei ddedfrydu mewn llys yn Abu Dhabi heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 21).

Cafodd yr arbenigwr ar astudiaethau’r Dwyrain Canol ei arestio ym Maes Awyr Dubai ym mis Mai, wrth deithio i’r wlad er mwyn gwneud gwaith ymchwil ar gyfer ei draethawd.

Yn ystod gwrandawiad yn y llys ar Hydref 24, cyflwynodd cyfreithiwr dystiolaeth a oedd yn dangos nad yw nodiadau gwaith Matthew Hedges yn cynnwys unrhyw wybodaeth gyfrinachol.

Roedd yr Ysgrifennydd Tramor, Jeremy Hunt, a Gweinidog y Dwyrain Canol, Alistair Burt, wedi teithio i’r Emiraethau Arabaidd Unedig er mwyn dadlau achos y myfyriwr.

Mae Jeremy Hunt “wedi’i siomi” gyda’r dyfarniad heddiw, ac mae’n dweud y bydd Llywodraeth Prydain yn parhau i gefnogi Matthew Hedges a’i deulu.