Mae llywydd undeb myfyrwyr yn Lloegr wedi ymddiswyddo yn dilyn sylwadau a wnaeth ynglŷn ag ail-baentio murlun sy’n coffáu milwyr y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ddiwedd mis Hydref, fe gyhoeddodd Emily Dawes ar Twitter y dylai’r Murlun Rothenstein enwog ym Mhrifysgol Southampton gael ei waredu oherwydd ei fod yn cynnwys “dynion gwyn” yn unig.

“Clywch fy ngeiriau – rydyn ni am dynnu’r murlun o ddynion gwyn yn ystafell Senedd y brifysgol i lawr, hyd yn oed os oes rhaid i mi ei ail-baentio fy hun,” meddai.

Yn ddiweddarach, fe ymddiheurodd y llywydd am ei sylwadau, ond mae’n debyg bod mwy na 21,000 wedi llofnodi deiseb yn galw arni i adael ei swydd.

Ymddiheuriad pellach

Mewn datganiad a gafodd ei ryddhau trwy gyfrwng Undeb Myfyrwyr Prifysgol Southampton, mae’r llywydd wedi ymddiheuro unwaith yn rhagor am “unrhyw falais a diffyg parch” a ddangosodd trwy wneud y sylwadau.

“Fe wnes i weithredu mewn gwylltineb, a dw i’n derbyn faint mor ddiofal a niweidiol oedd fy ngeiriau,” meddai.

Cafodd y murlun rhyfel ei greu gan William Rothenstein yn 1916, er mwyn cofio am fyfyrwyr a staff o brifysgolion gwledydd Prydain a wasanaethodd yn y Rhyfel Mawr.

Cafodd ei roi yn nwylo Prifysgol Southampton yn 1959 gan fab yr artist.