Mae dyfodol Llywodraeth Theresa May wedi cymryd tro negyddol newydd ar ôl i blaid y DUP, Gogledd Iwerddon, gyhuddo’r Prif Weinidog o fynd yn erbyn ei haddewid.

Maen nhw’n anhapus gyda bargen Brexit Theresa May, ac wedi danfon eu neges drwy benderfynu gwrthod cefnogi’r Mesur Cyllid.

Cefnogodd y DUP welliannau i’r bil gan y Blaid Lafur ddoe (Dydd Llun, Tachwedd 19), ac mae disgwyl iddyn nhw wrthod mwy o newidiadau’r Ceidwadwyr wrth i’r trafodaethau barhau heddiw (Tachwedd 20).

Mae gan y DUP a’r Ceidwadwyr drefniant, ac yn y cytundeb hwnnw, fe fyddai’r DUP yn cefnogi’r Llywodraeth ar faterion cyllid.

Mae perthynas y ddwy blaid wedi gwanhau dros yr wythnosau diwethaf yn dilyn beirniadaeth gan y DUP o gytundeb drafft Brexit y prif weinidog.

Addewid “wedi’i thorri’n ddifrifol”

Yn ôl llefarydd Brexit y DUP, Sammy Wilson, mae angen i’r Llywodraeth “gadw eu hochor nhw o’r fargen” gan ddatgan bod addewid “wedi’i thorri’n ddifrifol”.

“Gan nad yw’r Llywodraeth wedi anrhydeddu ei hochor o’r fargen, rydan ni’n dangos heno beth yw canlyniadau hynny.

“Mae’r prif weinidog wedi tanseilio ei hawdurdod ei hun gyda’i phlaid ei hun a gyda’n plaid ninnau drwy dorri addewidion ynghylch yr hyn y byddai’n ei ddarparu ym margen Brexit.”