Fe ddaeth yn amlwg y bydd cyn-chwaraewr pêl-droed Lloegr, Paul Gascoigne, yn ymddangos o flaen llys ar gyhuddiad o ymosod yn rhywiol ar fenyw trwy gyffwrdd ynddi.

Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain wedi cadarnhau y bydd y cyn-eilun 51 oed yn ymddangos o flaen ynadon Newton Aycliffe yn Swydd Durham y mis nesa’.

Mae’n ymddangos bod Paul Gascoigne wedi cael ei arestio yn Ngorsaf Durham ar ôl taith rhwng y Ddinas a Chaerefrog ar 20 Awst.

Fe gafodd ei gyhuddo yn ffurfiol trwy lythyr.