Bos newydd TSB fydd un o’r ychydig fenywod sy’n benaethiaid y byd bancio, pan fydd yn dechrau ar ei gwaith y flwyddyn nesaf.
Mae Debbie Crosbie wedi treulio 20 mlynedd gyda’r Clydesdale and Yorkshire Bank, lle y bu’n brif swyddog gweithredol.
Fe fu hefyd yn brif weithredwr dros-dro am hanner cyntaf 2015, pan fu’n gyfrifol am ymadawiad y banc oddi wrth y National Australia Bank, a sefydlu CYBG.
Mae wedi llwyddo i ddenu dwy filiwn o gwsmeriaid i’r sefydliad newydd.
Fe fydd hi’n camu i’w swydd gyda TSB yn y flwyddyn newydd.