Mae Boris Johnson wedi ymosod ar Theresa May unwaith yn rhagor, gan alw ei chynllun ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn weithred “warthus” o “werthu allan”. Mae’n dweud y bydd y cytundeb yn gadael gwledydd Prydain yn agored i gael eu “rheoli gan bwerau a llysoedd tramor”.
Mae’r cyn-Ysgrifennydd Tramor yn un o’r rheiny sy’n rhoi pwysau ar Brif Weinidog Prydain yn dilyn wythnos o anhrefn yn San Steffan.
Mae Boris Johnson wedi cyflwyno ei ‘gynllun chwe cham’ ei hun, gan honni y byddai’n llwyddo i ateb problemau ffin Iwerddon; yn dod allan o’r cymal i dalu £39bn o arian i Ewrop wrth adael; ac yn creu cytundeb masnach ‘SuperCanada’ gyda Brwsel.
Dydi Boris Johnson ddim yn un o’r rheiny sydd wedi ymuno â’r rhes o Aelodau Seneddol sy’n galw am bleidlais o ddiffyg hyder yn Theresa May fel arweinydd y blaid Geidwadol.
Cynllun chwe cham Boris Johnson
- Gwrthod y penderfyniad y bydd Llys Iawnderau Ewrop yn gyfrifol am agweddau o gytundeb ymadael y Deyrnas Unedig â’r Undeb;
- Sgrapio’r ôl-stop ar Ogledd Iwerddon. Yn hytrach, meddai, fe ddylai’r ddwy ochr gomitio i osgoi creu ffin galed yng Ngogledd Iwerddon, a gweithio tuag at ddatrys y sefyllfa yn nes ymlaen;
- Apwyntio gweinidog ‘Dim Dêl’ a fydd yn cyflymu’r broses o dynnu allan o delerau ‘Sefydliad Masnach y Byd (WTO);
- Mynd ar ôl cytundeb masnach ar hyd llinellau ‘Super-Canada’
- Dal o leia’ hanner yr £39bn yn ôl nes y bydd bargen wedi’i tharo;
- Mynnu bod Llywodraeth Prydain yn cefnogi, ac yn credu yn, Brexit.