Mae dyn 23 oed mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn ymosodiad yng nghanol dinas Birmingham.

Fe ddigwyddodd nos Wener (Tachwedd 16), wrth iddo gerdded ar hyd y gamlas yn y ddinas toc ar ôl 6 o’r gloch.

Aeth dynes a dau ddyn ato, ac fe ddechreuodd un o’r dynion ei gicio cyn dwyn ei eiddo.

Rhedodd y tri i ffwrdd ar hyd y gamlas.

Fe fu’n rhaid i’r dyn gael llawdriniaeth frys am anafiadau i’w ben, ac mae’n dal i fod mewn uned gofal dwys.

Mae’r heddlu’n chwilio am dri o bobol o dras Asiaidd yn eu 20au cynnar, ac maen nhw’n apelio am wybodaeth.