Mae’r newyddiadurwr Andrew Marr a’r Farwnes Shami Chakrabarti wedi cyhuddo’i gilydd yn ystod cyfweliad o fod yn “nawddoglyd”.

Daeth y ffrae ar ôl i’r newyddiadurwr golli ei dymer yn ystod cyfweliad am y posibilrwydd o gynnal ail refferendwm Brexit, a hynny ar ôl i’r Farwnes Chakrabarti awgrymu nad oedd e’n “ddemocrat”.

Roedd yntau wedi gofyn iddi pam ei bod yn ceisio etholiad cyffredinol ar addewid o gefnogi Brexit, er iddi bleidleisio tros aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd yn 2016.

“Alla i ddim deall pam eich bod chi eisiau gadael yr Undeb Ewropeaidd,” meddai, cyn ychwanegu, “Rydych am fynd i mewn i ymgyrch etholiad cyffredinol fel aelod o blaid sy’n dweud ein bod ni’n gadael yr Undeb Ewropeaidd.”

‘Wn i ddim amdanoch chi’

“Democrat ydw i,” oedd ateb y Farwnes Chakrabarti, cyn ychwanegu, “Wn i ddim amdanoch chi Andrew, ond democrat ydw i.”

“Peidiwch â cheisio bod yn nawddoglyd tuag ata i. Rwy’n gymaint o ddemocrat ag ydych chi,” atebodd y newyddiaduwr.

“Fyddwn i’n sicr ddim yn ceisio bod yn nawddoglyd tuag atoch chi, rwy’n sicr na fyddech chi’n ceisio bod yn nawddoglyd tuag ataf innau,” atebodd hi wedyn.