Fe fydd pecynnau o bryfed tân, neu griciaid – crickets – wedi eu rhostio ar werth mewn 250 o archfarchnadoedd Sainsbury o yfory ymlaen.

Dyma’r tro cyntaf i archfarchnad ym Mhrydain gynnig pryfed i’w bwyta.

Fe fydd pecyn o’r criciaid rhost myglyd yn costio £1.50.

Cafodd y cynnyrch ei lansio gan y gwneuthurwyr Eat Grub yn 2014 gyda’r nod o gyflwyno pryfed i ddiwylliant bwyd y gorllewin.

“Ar hyn o bryd, caiff pryfed eu bwyta a’u mwynhau gan ddwy biliwn o bobl ledled y byd,” meddai Shami Radia, un o gyd-sylfaenwyr Eat Grub.

Yn ôl y cwmni, mae eu criciaid sych yn cynnwys mwy o brotin y gram na chig eidion, cyw iâr a phorc – gyda 100g yn cynnwys 68g o brotin, o gymharu â 31g mewn cig eidion.