Yr unig ffordd o ail-drafod cytundeb Brexit Theresa May fyddai trwy ohirio ymadawiad Prydain o’r Undeb Ewropeaidd. yn ôl Prif Weinidog Iwerddon, Leo Varadkar.

Dywed y byddai’n gwbl amhosibl gwneud diwygiadau i ddogfen sydd wedi cymryd dwy flynedd i’w pharatoi yn yr ychydig fisoedd tan ddiwedd Mawrth.

“Os byddwch chi’n cychwyn ei ddiwygio neu ei ddad-wneud, efallai y bydd y cyfan yn dadfeilio,” meddai.

“Byddai’n rhaid i Brydain felly ofyn am estyniad i’w dyddiad ymadael o’r Undeb Ewropeaidd – ond mae wedi datgan yn glir na fydd yn gwneud hynny.”

Dywedodd fod llywodraeth Iwerddon yn dal i baratoi rhag ofn na fydd cytundeb.

“Rhaid inni baratoi ar gyfer y scenario waethaf, er fy mod i’n llawer mwy hyderus na fydd hyn yn codi,” meddai.

“Er bod pethau’n edrych yn anodd iawn ar hyn o bryd i ennill y bleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin, dw i’n meddwl y bydd mwy a mwy o bobl yn barod i gefnogi’r cytundeb fel y bydd y clogwyn yn nesáu.

“Yr unig ffordd y gallwn osgoi ffin galed yw trwy gytundeb.”