Mae disgwyl i 30 o bobol ymddangos gerbron y llys wedi’u cyhuddo o fanteisio yn rhywiol ar blant yn Huddersfield.

Fe ymddangosodd 25 ohonyn nhw gerbron Llys y Goron Leeds heddiw (Tachwedd 16).

Maen nhw’n cael eu cyhuddo o gyflawni cyfanswm o 78 o droseddau, sy’n cynnwys treisio, masnachu mewn plant ac ymosod yn rhywiol ar bum plentyn.

Roedd 18 o’r rheiny a ymddangosodd gerbron y llys heddiw wedi’u rhyddhau ar fechnïaeth, tra bo saith wedi’u cadw yn y ddalfa.

Wnaeth pump arall, sydd wedi eu cadw yn y ddalfa, ddim ymddangosiad heddiw, ond roedd cynrychiolwyr yno yn eu lle.

Dywedodd y barnwr y bydd y cyhuddiadau yn erbyn y criw o 30 yn cael eu hystyried mewn tri achos llys gwahanol, gyda disgwyl i’r un cyntaf gychwyn ym mis Medi 2019. Ni fydd yr achos olaf yn cychwyn nes mis Ebrill 2020.

Mae’r ugain a ymddangosodd gerbron Llys y Goron heddiw wedi cael eu henwi. Mae’r deg sydd heb eu henwi wedyn yn cael eu cyhuddo o droseddau sy’n cynnwys treisio a masnachu plant.