Mae storfa o arfau sy’n gysylltiedig â gweriniaethwyr wedi cael ei ganfod mewn sied a aeth ar dân yng Ngogledd Iwerddon.

Yn ôl yr heddlu, fe ddaethon nhw o hyd i’r arfau, sy’n cynnwys dau wn AK47, dau wn shot, ffrwydron a chyflenwad o fwledi, wedi’u storio mewn adeilad ar Rodney Drive yn Belfast.

Mae lle i gredu bod yr arfau yn perthyn i’r grŵp o weriniaethwyr sy’n galw eu hunain yn IRA Newydd, ac mae’n bosib eu bod wedi’u storio yn y sied, a hynny ar ben boeler twym, heb yn wybod i berchennog y tŷ.

Mae’r heddlu hefyd yn credu bod y ddau wn AK47 wedi eu defnyddio i ymosod ar ddau heddwas yn Belfast yn 2015 a 2017.

“Diystyrwch llwyr”

Yn ôl uwch swyddog yn yr heddlu, ni allai gredu bod eitemau mor beryglus â bomiau a bwledi wedi cael eu stori mewn lle mor dwym.

“Mae hyn yn hollol fyrbwyll, yn dwp ac yn dangos diystyrwch llwyr am ddiogelwch y trigolion lleol,” meddai’r Ditectif Uwch-Arolygydd John McVea.

“Fe fydd unrhyw un sydd gydag owns o synnwyr cyffredin yn gwybod bod cymysgu cyflenwad o fwledi byw a gwahanol ffrwydron, gyda gwres, yn gofyn am gyflafan.”