Mae’r amseroedd aros ar gyfer derbyn budd-dal dan drefn y Credyd Cynhwysol wedi “taflu pobol i bwll o anobaith a thrallod”.

Dyna farn yr Athro Philip Alston sy’n arbenigwr i’r Cenhedloedd Unedig ar dlodi eithafol a hawliau dynol.

Ac mae yn dweud bod y Credyd Cynhwysol wedi achosi caledi eithriadol, ond bod modd i Lywodraeth Prydain wneud tro pedol yn rhwydd.

Yn ôl y Llywodraeth mae’r drefn newydd o dalu budd-dal yn cymell pobol i chwilio am waith.

Ond mae’r Athro Philip Alston yn dweud bod y polisi yn “cosbi” a “phigo ar” y rhai sy’n derbyn budd-dal.

Daeth ei sylwadau wedi iddo ymweld â naw o ddinasoedd gwledydd Prydain.

Yn ôl ei adroddiad i’r Cenhedloedd Unedig, mae 14 miliwn o bobol yn byw mewn tlodi yng ngwledydd Prydain, ac 1.5 miliwn yn y categori amddifad ac yn methu â fforddio’r hanfodion sylfaenol ar gyfer byw.