Mae Ysgrifennydd yr Amgylchedd, Michael Gove, wedi rhoi taw ar y sïon ei fod yn bwriadu ymddiswyddo.

Mae’r gweinidog eisiau “sicrhau’r sefyllfa orau bosib i’r wlad” trwy weithio â’r Cabinet, ac felly dyw e ddim am gamu o’r neilltu, yn ôl ffynhonnell sy’n agos iddo.

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn diwrnod tymhestlog yn San Steffan ddoe pan ymddiswyddodd llu o weinidogion tros gynlluniau Brexit Theresa May, y Prif Weinidog.

Ymhlith y gweinidogion rheiny roedd yr Ysgrifennydd Brexit, Dominic Raab, ac mae’n debyg bod ei rôl wedi’i gynnig i Michael Gove yn dilyn ei ymadawiad.

Yn ôl rhai ffynonellau, mi wrthododd Michael Gove y cynnig.

Dywedodd Michael Gove y byddai ond yn cymryd y swydd os byddai’n cael cyfle i newid cynlluniau Theresa May, ond cafodd yr amod hwnnw ei wrthod – yn ôl adroddiadau.