Mae Theresa May yn mynnu ei bod hi am barhau i frwydro tros ei chytundeb Brexit, yn sgil cyfres o ymddiswyddiadau sydd wedi bygwth chwalu undod ei Llywodraeth.

Fe ddywedodd y Prif Weinidog neithiwr (dydd Iau, Tachwedd 15) ei bod hi am “gwblhau’r dasg”, er gwaethaf colli’r Ysgrifennydd Brexit, Dominic Raab, a’r Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, Esther McVey, ymhlith yr ymddiswyddiadau amlycaf.

Yn y cyfamser, mae yna suon bod yr Ysgrifennydd Amgylchedd, Michael Gove, yn pendroni dros ei ddyfodol yn y Llywodraeth yn dilyn adroddiadau ei fod wedi gwrthod cynnig i ddod yn Ysgrifennydd Brexit newydd.

Diffyg hyder

Mae’n debyg bod gan yr Ysgrifennydd tros Ddatblygu Rhyngwladol, Penny Morduant, amheuon ynghylch y cytundeb hefyd, a’i bod wedi cyfarfod â Theresa May ddoe er mwyn ceisio cael yr hawl i Geidwadwyr bleidleisio’n rhydd ar y mater yn y Senedd.

Does dim cadarnhad eto os yw nifer y llythyron o ddiffyg hyder i Bwyllgor 1922 wedi cyrraedd y targed o 48, ar ôl i un o Geidwadwyr amlycaf y garfan Brexit, Jacob Rees-Mogg, gyhoeddi yn dra chyhoeddus ddoe ei fod wedi cyflwyno llythyr.

Yn ôl awgrym gan y cyn-weinidog, James Dubbridge, mae’n bosib bod 48 o lythyron wedi’u cyflwyno’n barod, ond nad yw hynny wedi’i gadarnhau eto gan fod gan y Prif Weinidog ddau ddiwrnod i wneud cyhoeddiad.

Fe fyddai 48 o lythyron – sy’n cyfri am 15% o’r Aelodau Seneddol Ceidwadol – yn golygu bod Theresa May yn gorfod wynebu her i’w harweinyddiaeth.