Mae bron i ddau draean o ganghennau banciau’r Deyrnas Unedig wedi cau tros y 30 mlynedd ddiwethaf, yn ôl dadansoddiad diweddar.

Yn 1988 roedd gan fanciau a chymdeithasau 20,583 o ganghennau yng ngwledydd Prydain, yn ôl ffigurau senedd San Steffan.

Ond, mae gwaith gan grŵp Which? yn dangos bod y ffigur hwnnw bellach wedi disgyn i 7,586.

Mae’r grŵp – sy’n sefyll tros hawliau cwsmeriaid – wedi codi pryderon am hyn, gan ddadlau ei fod yn gadael rhai cwsmeriaid mewn “sefyllfa letchwith”.

“Rhyfeddol”

“Mae gwir faint y broblem yn rhyfeddol,” meddai Golygydd Arian Which? “Mae’r broblem wedi arwain at filiynau o bobol yn cael trafferth cael gafael ar y gwasanaethau maen nhw eu hangen.”

“I lawer o bobol does dim opsiwn gwell na changen – yn ogystal â’r ystod eang o wasanaethau maen nhw’n cynnig. Ac yn awr mae llawer o gwsmeriaid yn wynebu gorfod teithio yn bell.

“Rydym eisiau i fanciau gynnig cyfiawnhad dechau tros gau canghennau. A hoffem iddyn nhw ystyried anghenion eu cwsmeriaid cyn cau’r drysau.”

Ffigurau

  • Mae 19% o bobol yn byw dros dri chilomedr i ffwrdd o’u cangen agosaf
  • Mae 8% o bobol yn byw dros bum cilomedr i ffwrdd o’u cangen agosaf
  • Mae 6% o bobol yn byw dros chwe chilomedr i ffwrdd o’u cangen agosaf