Mae uned i fabanod yn Amwythig a Telford, sy’n ymchwilio i safonau gofal, wedi cysylltu â 215 o deuluoedd.

Mae lle i gredu bod yr achosion dros gyfnod o 20 i 30 o flynyddoedd, a bod gan deuluoedd gwestiynau. Mae’r ymchwiliad i sawl achos eisoes wedi dod i ben.

Y fydwraig brofiadol Donna Ockenden sy’n arwain yr ymchwiliad ers y llynedd, pan gafodd mesurau arbennig eu cyflwyno ar gais y Comisiwn Safonau Gofal ar ddiwedd archwiliad o’r uned.

Roedd gan y corff bryderon am y ffordd roedd clinigwyr yn gofalu am fenywod beichiog lle’r oedd gan fabanod lai o symudedd na’r arfer, all awgrymu bod ganddyn nhw broblemau iechyd.

Mesurau arbennig

Ymhlith y mesurau arbennig a gafodd eu cyflwyno mae adrodd yn ôl bob wythnos ar y camau sy’n cael eu cymryd i ofalu am gleifion sy’n defnyddio gwasanaethau bydwreigiaeth.

Mae camau tebyg yn eu lle ar gyfer gwasanaethau gofal brys yn Amwythig a Telford.

“Rydym yn ddiolchgar i’r teuluoedd sydd wedi dod ymlaen hyd yn hyn i rannu neu ofyn a ddylai eu profiad fod yn rhan o’n hymchwiliad annibynnol,” meddai cyfarwyddwr meddygol gweithredol NHS Improvement, Dr Kathy McLean.

“Rydym am sicrhau pobol fod pob achos posib yn cael ei ystyried ac wedi cael ei ystyried fel rhan o’r ymchwiliad, i helpu i sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu.”