Dydi archwilwyr ddim wedi gallu cynnig eglurhad hyd ynglyn â beth achosodd gwrthdrawiad hofrennydd a laddodd berchennog clwb pêl-droed Leicester City a phedwar o bobol eraill.

Cyn y gwrthdrawiad ar Hydref 27, fe wnaeth yr hofrennydd droi i’r dde, er i’r peilot geisio troi i’r chwith, yn ôl adroddiad cychwynnol y Gangen Archwiliadau i Ddamweiniau Awyr.

Mae archwilwyr wrthi’n archwilio’r system rotor yng nghefn yr hofrennydd er mwyn ceisio darganfod a oedd wedi cwympo oddi ar yr hofrennydd yn yr awyr.

Roedd yr hofrennydd wedi cyrraedd uchder o ryw 430 troedfedd cyn plymio i’r ddaear y tu allan i Stadiwm King Power yng Nghaerlŷr, ac fe aeth ar dân wedyn.

Bu farw perchennog y clwb, Vichai Srivaddhanaprabha; dau aelod o’i staff, Nursara Suknamai a Kaveporn Punpare; y peilot Eric Swaffer a’i bartner a chyd-beilot Izabela Roza Lechowicz.