Mae aelodau o Gabinet Llywodraeth Prydain yn cael eu hannog i wrthod y cytundeb drafft mewn cyfarfod allweddol â’r Prif Weinidog heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 14).

Fe ddaeth y cyhoeddiad neithiwr fod Llywodraeth Prydain a’r Undeb Ewropeaidd wedi cytuno ar fanylion y cytundeb Brexit wedi wythnosau o drafodaethau.

Ers hynny, mae Theresa May wedi bod yn cyfarfod yn unigol â gweinidogion er mwyn trafod y cytundeb drafft, ac mae disgwyl i’r cyfarfodydd hynny barhau y bore yma.

Bydd yn rhaid i’r Prif Weinidog hefyd wynebu cwestiynau yn Nhŷ’r Cyffredin y bore yma, cyn cyfarfod y Cabinet am 2yp.

Yn y cyfamser, mae cynrychiolwyr o wledydd yr Undeb Ewropeaidd yn dod ynghyd heddiw er mwyn trafod y cytundeb a’r posibilrwydd o drefnu uwchgynhadledd brys er mwyn ei gymeradwyo.

“Methiant”

Ymhlith y rheiny sy’n galw am wrthwynebiad i’r cytundeb mae rhai o gyn-weinidogion mwyaf blaenllaw y llywodraeth.

Dywed Boris Johnson, y cyn-Ysgrifennydd Tramor, fod y cynigion sy’n cae eu cyflwyno yn y cytundeb yn “nonsens”, a bod angen i aelodau “daflu’r peth allan”.

Yn ôl David Davis, y cyn-Ysgrifennydd Brexit, mae’n “adeg dyngedfennol” i wledydd Prydain, ac mae angen i’r Cabinet ac Aelodau Seneddol Ceidwadol “sefyll i fyny” a gwrthwynebu.

Mae Jacob Rees-Mogg wedyn, sef cadeirydd y Grŵp Ymchwil Ewropeaidd, yn dweud bod safbwynt Llywodraeth Prydain yn y trafodaethau wedi bod yn “fethiant”, gyda posibilrwydd cryf y byddai Brexit yn “rhannu’r” Deyrnas Unedig.