Mae pobol yn cario gormod o bwysau o ganlyniad i nifer o resymau, nid jyst oherwydd eu bod yn methu â rheoli eu harferion bwyta.

Dyna pam y mae Cymdeithas Seicolegol Prydain yn dweud bod y diffyg cefnogaeth feddyliol i bobol ordew yn tanseilio’r ymdrechion i fynd i’r afael ä’r broblem.

Mae’r Gymdeithas hefyd yn honni nad yw gordewdra yn ddewis, nac yn dugwydd o ganlyniad i ddiffyg hunanreolaeth gan unigolyn.

Mae bron iawn i ddwy ran o dair o oedolion yng ngwledydd Prydain yn ordew.

Mae’r broblem o ganlyniad i gymysgedd o ffactorau biolegol, cymdeithasol a seicolegol, yn ôl y papur sy’n cael ei gyhoeddi heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 14).

Dim digon o gefnogaeth

Nid yw’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn darparu’r gefnogaeth seicolegol sydd ei hangen, meddai’r adroddiad wedyn.

“Dydi pobol ddim yn cael y gefnogaeth seicolegol maen nhw ei hangen i gadw pwysau iach,” meddai prif weithredwr Cymdeithas Seicolegol Prydain, Sarb Bajwa.

“I lawer, dydi’r mantra o ‘fwyta llai, symud mwy’ ddim yn ddigon i daclo’r rhwystrau maen nhw’n eu wynebu i gyrraedd ffordd iachach o fyw.”