Mae’r ffin yng Ngogledd Iwerddon yn parhau’n faen tramgwydd yn y trafodaethau Brexit, wedi i’r Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd fethu â dod i gytundeb unwaith eto.

Bu swyddogion ar y ddwy ochr yn cynnal trafodaethau dwys ers ddoe (dydd Sul, Tachwedd 11), ac mae’n debyg na ddaeth y cyfarfod i ben tan chwarter i dri’r bore yma.

Yn ôl Rhif 10, mae yna “faterion sylweddol” ar ôl i’w datrys ynglŷn â sicrhau ffin feddal yng Ngogledd Iwerddon.

“Rydym wedi gwneud cynnydd da yn y trafodaethau o ran y cytundeb Brexit, ond mae yna faterion sylweddol i’w datrys mewn cyswllt â Gogledd Iwerddon,” meddai llefarydd ar ran y Prif Weinidog.

Yr un oedd stori Michel Barnier, prif drafodwr yr Undeb Ewropeaidd, mewn cyfarfod â gweinidogion o wledydd yr undeb yn gynharach heddiw.

“Fe esboniodd Michel Barnier fod trafodaethau dwys yn parhau, ond does dim cytundeb wedi’i ffurfio eto,” meddai’r Cyngor Ewropeaidd mewn datganiad.

“Mae yna rai materion pwysig ar ôl i’w trafod, yn enwedig yr ymgais i osgoi ffin galed rhwng Gweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon.”

Yn y cyfamser, mae’r pwysau’n cynyddu ar Theresa May adref, wrth iddi wynebu hyd yn oed fwy o wrthwynebiad i’w chynlluniau Brexit.

Yn ôl manylion sydd wedi’u cyhoeddi heddiw, mae’n debyg y bu’r Ysgrifennydd Cartref, yr Ysgrifennydd Amddiffyn a’r Canghellor ill tri yn mynegi pryderon am gynllun Chequers ym mis Gorffennaf.

Mae’r tri – Sajid Javid, Gavin Williamson a Philip Hammond – yn aelodau o’r garfan a bleidleisiodd o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm yn 2016.