Mae llanc yn ei arddegau wedi’i gyhuddo o achosi marwolaethau tad a’i fab ifanc yn ogystal a chwpwl priod mewn gwrthdrawiad.

Mae Elliott Bower, 18 oed, wedi’i gyhuddo o yrru Volkswagen Golf a fu mewn gwrthdrawiad gyda cherbyd Volkswagen Touran wrth gael ei erlid gan yr heddlu yn Sheffield tua 8.50yh nos Wener (Tachwedd 9).

Mae’r llanc wedi ei gyhuddo o achosi pedaur marwolaeth drwy yrru’n beryglus yn Darnall.

Mae hefyd wedi’i gyhuddo o drin a thrafod nwyddau wedi’u dwyn ac o fod â’r cyffur canabis yn ei feddiant.

Mae’r heddlu hefyd wedi cyhuddo Declan Bower, 23, o ddwyn cerbyd ac o achosi marwolaeth mewn gwrthdrawiad.

Mae hefyd wedi’i gyhuddo o drin nwyddau wedi’u dwyn, dau gyhuddiad o yrru tra wedi’i wahardd, dau gyhuddiad o yrru heb yswiriant, a bod ag arf a chanabis yn ei feddiant.

Fe fydd y ddau yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Sheffield heddiw (dydd Llun, Tachwedd 12).

Bu farw Adnan Ashraf Jarral, 35, a’i fab Usman Adnan Jarral

Mae llanc 17 oed a gafodd ei arestio ar y pryd mewn cysylltiad â’r digwyddiad, yn parhau yn y ddalfa.