Mae disgwyl i Michel Barnier roi diweddariad i weinidogion o’r Undeb Ewropeaidd am Brexit heddiw (dydd Llun, Tachwedd 12), wrth i’r pwysau ar Theresa May gynyddu.

Yn ôl un o brif feirniaid y Prif Weinidog o fewn y blaid Geidwadol, Boris Johnson, mae Theresa May ar fin “ufuddhau” i’r Undeb Ewropeaidd tros Brexit.

Mae’r cyn-Ysgrifennydd Tramor yn galw ar aelodau o’r Cabinet i wrthwynebu agenda’r Prif Weinidog, a all weld y Deyrnas Unedig yn parhau “mewn caethiwed” wedi Brexit.

Mae cyn-aelod arall o’r Cabinet, John Whittingdale, wedi dweud ei bod yn anodd gweld sut y gall Theresa May barhau yn ei swydd os bydd Aelodau Seneddol yn gwrthod unrhyw gytundeb Brexit y bydd hi’n ei chyflwyno gerbron y Senedd.

Mae Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, Andrea Leadsom, hefyd wedi cynyddu tensiynau ar ôl dweud na all y Deyrnas Unedig gael ei “dal” mewn cytundeb heb y gallu i adael yn ei hamser ei hun.

Daw’r pwysau diweddaraf ar y Prif Weinidog ar ôl i frawd Boris Johnson, Jo Johnson, ymddiswyddo o’r Cabinet dros y penwythnos, gan feirniadu Theresa May yn hallt tros y ffordd y mae hi’n delio â Brexit.

Mae’n codi amheuon y gall rhagor o weinidogion, a bleidleisiodd yn erbyn Brexit yn 2016, adael y Cabinet.