Senedd Holyrood
Mae disgwyl y bydd y Blaid Lafur yn yr Alban yn cael mwy o annibyniaeth oddi wrth y blaid Brydeinig.
Fe allai hynny danio ymgais i gael yr un math o bwerau yng Nghymru, gydag arweinydd ar wahân a mwy o hawl i wneud polisïau.
Fe fydd Cynhadledd y Blaid Lafur yn pleidleisio ar y syniad sydd wedi codi yn sgil eu methiant yn etholiadau Senedd yr Alban.
Fe gafodd adroddiad ei greu gan gyn Ysgrifennydd yr Alban, Jim Murphy, a’r Aelod o Senedd yr Alban, Sarah Boyack, a’r disgwyl yw y bydd yn cael ei gefnogi yn Lerpwl heddiw.
Yn ôl papur y Scotsman, fe fydd y penderfyniad yn golygu nad Ed Miliband fydd yr arweinydd Llafur i’r gogledd o Wal Hadrian.
Fe fydd cynhadledd arbennig yn cael ei chynnal yn yr Alban y mis nesa’ i gadarnhau’r newid.