Mae tad a mab a fu farw mewn gwrthdrawiad â char heddlu yn Sheffield wedi cael eu henwi.

Roedd Adnan Ashraf Jarral, 35, a’i fab blwydd oed Usman ymhlith pedwar o bobol a gafodd eu lladd yn ardal Darnall y ddinas nos Wener (Tachwedd 9).

Bu farw dyn 50 oed a dynes 41 oed yn y gwrthdrawiad hefyd.

Roedd VW Golf yn cael ei gwrso gan gerbyd yr heddlu a darodd i mewn iddyn nhw.

Dywed Shafqat Mirza, ewythr Adnan Ashraf Jarral, fod ei nai yn ddyn “diymhongar a chwrtais” oedd yn “llawn bywyd”, ac yn falch iawn o’i feibion a’i lys-fab.