Mae Ceidwadwyr ac aelodau’r DUP sydd o blaid Brexit yn barod i uno i wrthwynebu cynlluniau Prif Weinidog Prydain, Theresa May wrth i Brydain baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae hi’n wynebu gwrthdystiad gan ei phlaid ei hun, a fydd yn gysgod mawr tros ei chynlluniau i sicrhau cytundeb.

Daw’r pryderon ar ôl i’r Gweinidog Trafnidiaeth Jo Johnson, brawd y cyn-Ysgrifennydd Tramor Boris, ymddiswyddo’r wythnos ddiwethaf, ac yntau o blaid aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Ceidwadwr Steve Baker a llefarydd Brexit y DUP, Sammy Wilson wedi rhybuddio y byddan nhw’n gwrthwynebu unrhyw gynlluniau sy’n peryglu undod y Deyrnas Unedig ac a fyddai’n creu ffin fasnach yn Iwerddon.

“Rydym yn rhannu uchelgais y Prif Weinidog am gytundeb masnach rydd gyda’r Undeb Ewropeaidd, ond nid ar unrhyw gost ac yn sicr nad ar draul ein hundeb,” meddai’r ddau yn y Sunday Telegraph.

“Os yw’r Llywodraeth yn gwneud y camgymeriad hanesyddol o flaenoriaethu lliniaru’r Undeb Ewropeaidd tros sefydlu Deyrnas Unedig annibynnol a chyfan, yna yn anffodus, fe fydd rhaid i ni bleidleisio yn erbyn y cytundeb.”

Gwrthdaro

Roedd adroddiadau’r wythnos hon fod Brwsel wedi gwrthod cynigion diweddaraf Llywodraeth Prydain am gytundeb.

Roedd y Llywodraeth am gyflwyno cymal er mwyn tynnu allan o gytundeb dros dro ar ffin Gogledd Iwerddon.

Ac mae Jacob Rees-Mogg, sydd yn gadarn ei gefnogaeth i Brexit, wedi galw ar Theresa May i newid cyfeiriad, gan roi terfyn ar y gwrthdaro tros dalu £20bn i’r Undeb Ewropeaidd i sicrhau cytundeb gyda’r bloc Ewropeaidd yn dilyn yr ymadawiad.

Dywed yn y Mail on Sunday y dylid gwneud y broses o ymadael “mor gyfeillgar â phosib”.

“Mae’n bryd i Frexitwyr o argyhoeddiad fel fi gyfaddawdu,” meddai.

“Felly ar yr unfed awr ar ddeg yn y trafodaethau, hoffem wneud cynnig newydd, hael i dorri’r diffyg cytundeb…”

Ymateb Llywodraeth Prydain

“Roedd diwedd y trafodaethau bob amser yn mynd i fod yn anodd,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Prydain.

“Mae nifer o faterion i’w datrys ar gytundeb dros dro Gogledd Iwerddon a’r rhain yw’r rhai mwyaf anodd.”

Yn y cyfamser, mae llefarydd Brexit yr wrthblaid, Syr Keir Starmer yn mynnu nad oes angen i aelodau seneddol ildio er mwyn sicrhau “cytundeb gwael”.

Mae’r cyn-weinidog Cabinet Justine Greening yn galw am ail refferendwm, tra bod yr aelod seneddol Ceidwadol Andrew Bridgen yn galw am ddisodli Theresa May oni bai bod modd “wfftio cytundeb Chequers”.