Mae’r dyn sy’n cael ei amau o lofruddio Suzy Lamplugh yn 1986 yn honni mewn llythyr a gafodd ei anfon o’r carchar iddo gael ei “bardduo”.

Mae’r heddlu’n chwilio cartref mam John Cannan am dystiolaeth ers pythefnos, ond mae’n gwadu fod ganddo ran yn niflaniad y ddynes 25 oed yn 1986.

Mewn llythyr at ddynes sydd wedi’i weld gan y Sunday Mirror, dywed John Cannan ei fod yn barod i daflu ei hun oddi ar do carchar Full Sutton yn sgil yr ymchwiliad diweddaraf.

Dywed yn y llythyr fod yr ymchwiliad wedi ei “ypsetio”, ac nad yw “mewn sefyllfa i’w ateb” a’i fod yn teimlo’n “ddi-rym”.

Mae’r llythyr hefyd yn cyfeirio at fideo a gyflwynodd i asiantaeth garu yn 1987, lle mae’n disgrifio’i gymar perffaith fel “rhywun sy’n hawddgar ac yn hamddenol i fod gyda hi”.

Mae lle i gredu ei fod e wedi creu’r fideo chwe wythnos yn unig cyn cael ei arestio ar amheuaeth o gipio a llofruddio Shirley Banks ym Mryste.

Mae wedi’i garcharu am oes.

Dywed y Mirror eu bod nhw wedi trosglwyddo’r llythyr i’r heddlu.

Hanes Suzy Lamplugh

Aeth Suzy Lamplugh ar goll ar ôl gadael ei swyddfa yng ngorllewin Llundain i gyfarfod â chleient anhysbys, oedd yn cael ei adnabod fel Mr Kipper.

Mae’r heddlu’n tybio ers 1994 iddi farw.

Dridiau cyn iddi gael ei gweld ddiwethaf, roedd John Cannan wedi cael ei ryddhau o garchar Wormwood Scrubs, lle bu dan glo am dreisio.

Bu’r heddlu’n chwilio cartref ei fam yn Sutton Coldfield yng nghanolbarth Lloegr ers pythefnos.