Mae pedwar o bobol wedi cael eu lladd ar ôl i’w cerbyd gael ei daro gan gerbyd oedd yn cael ei gwrso gan yr heddlu yn Sheffield neithiwr (nos Wener, Hydref 9).

Bu farw bachgen pedair oed yn yr ysbyty, a chafodd dau ddyn 35 a 50 oed a dynes 41 oed eu lladd yn y fan a’r lle.

Mae merch fach dair oed yn yr ysbyty, lle mae ei bywyd mewn perygl, dynes 22 oed mewn cyflwr difrifol, a dynes arall mewn cyflwr difrifol ond sefydlog.

Cafodd VW Touran lliw du ei daro gan VW Golf nos Wener.

Fe fu’r heddlu’n cwrso tri dyn yn y VW Golf cyn y gwrthdrawiad am oddeutu 8.50yh. Mae’r dynion, sy’n 17, 18 a 23 oed, wedi’u harestio ac maen nhw yn y ddalfa ar ôl cael eu hanafu.

Mae Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu’n cynnal ymchwiliad, ac yn apelio am wybodaeth.