Mae cerflun i nodi cyfraniad milwyr Sikhaidd i ymdrechion Prydeinig yn y ddau ryfel byd wedi cael ei ddifrodi lai nag wythnos ar ôl iddo gael ei ddadorchuddio yn Smethwick ger Birmingham.

Cafodd y cerflun efydd 10 troedfedd ei ddadorchuddio ar Dachwedd 4, ond fe gafodd graffiti ei ddarganfod arno neithiwr (nos Wener, Tachwedd 10).

Mae’r graffiti yn galw am ddim rhagor o “sepoys”, term sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio milwyr Indiaidd, ac mae hefyd yn cyfeirio’n sarhaus at “jarnail”, ffigwr dadleuol yn hanes India oedd yn cael ei ystyried gan rai yn frawychwr am ei fod o blaid creu gwladwriaeth Sikhaidd.

Mae Heddlu West Midlands yn trin y digwyddiad fel achos o ddifrod troseddol, ac yn apelio am wybodaeth.