Ed Miliband
Mae arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, wedi addo na fyddai ffioedd dysgu yn codi dros £6,000 pe baen nhw mewn grym.
Dywedodd y byddai trethi ar fancwyr a graddedigion sy’n ennill y cyflogau mwyaf yn talu cost £1 biliwn torri ffioedd dysgu £3,000.
Mewn cyfweliad â phapurau’r Sul dywedodd Ed Miliband y byddai yn codi’r llog ar fenthyciadau graddedigion oedd yn ennill mwy na £65,000.
Byddai hefyd yn diddymu toriadau trethi’r Llywodraeth Geidwadol i’r sector ariannol.
Fe fydd y cyhoeddiad yn plesio ymgyrchwyr y blaid ac yn rhoi pwysau newydd ar y pleidiau sydd mewn llywodraeth, yn enwedig y Democratiaid Rhyddfrydol.
Dywedodd Ed Miliband ei fod eisiau defnyddio’r gynhadledd yn Lerpwl er mwyn dangos i deuluoedd sy’n ei chael hi’n anodd “fod Llafur yn blaid er eu mwyn nhw”.
Fe fydd hefyd yn defnyddio ei araith ddydd Mawrth er mwyn beirniadu biliau egni uchel a chost teithio ar drenau.
Dim dyfodol
“Mae rhieni ym mhob cwr o’r wlad yn pryderu’n fawr iawn am eu meibion a’u merched,” meddai Ed Miliband wrth bapur newydd y Sunday Mirror.
“Rydw i eisiau gweithredu er mwyn sicrhau fod pobol yn gallu mynd i brifysgol heb deimlo y bydd dyled yn gwasgu i lawr arnyn nhw.”
Dywedodd wrth bapur newydd yr Osbserver fod David Cameron a Nick Clegg yn peryglu dyfodol cenhedlaeth “drwy orfodi pobol ifanc i dalu’r diffyg ariannol”.
“Ni ddylen ni fod yn torri trethi i’r banciau ar hyn o bryd,” meddai.