Roedd hyd at 14 o siopau’r stryd fawr wedi cau bob dydd yn ystod hanner cynta’r flwyddyn, tra bod nifer y siopau sy’n agor wedi gostwng i draean, yn ôl adroddiad.

Mae siopau yn wynebu’r amodau gwaethaf ers pum mlynedd, gyda thwf siopa ar-lein a chyfraddau busnes uchel yn cael y bai am yr amodau heriol.

Mae’n debyg bod arferion pobl yn newid hefyd gyda mwy yn penderfynu aros adre yn lle mynd allan.

Bwytai Eidalaidd, gan gynnwys cadwyn Jamie Oliver, sydd wedi cael eu heffeithio’n bennaf gan y newid tra bod cwmnïau fel Toys R Us, Maplin, Poundworld a Coast wedi mynd i’r wal wrth i fwy o bobl siopa ar-lein.

Yn y cyfamser mae Debenhams, Marks & Spencer, Mothercare, Homebase a Carpetright wedi cyhoeddi eu bod yn cau rhai o’u siopau.

Mae gweinidogion yn cael eu hannog i weithredu i helpu canol trefi gwledydd Prydain gydag arbenigwyr yn rhybuddio nad yw’r sefyllfa yn debygol o wella.

Roedd Cyllideb ddiweddara’r Llywodraeth yn dweud bod “y stryd fawr yn flaenoriaeth”.

Fe ddangosodd astudiaeth gan y cyfrifwyr PricewaterhouseCoopers a’r Local Data Company o 500 o strydoedd mawr fod 2,692 o siopau wedi diflannu yn ystod chwe mis cynta’r flwyddyn – tua 14 bob dydd.

Mae gostyngiad sylweddol wedi bod hefyd yn nifer y siopau sy’n agor. Fe agorodd 2,342 o siopau eu drysau yn ystod chwe mis cynta’r llynedd, o’i gymharu â 1,569 a agorodd rhwng 1 Ionawr a 30 Mehefin.

Llundain a’r dw ddwyrain oedd y rhanbarthau gafodd eu taro waethaf a Chymru oedd wedi perfformio orau, er bod 22 o siopau wedi cau.