Mae cyn-Archddeon yn Eglwys Loegr wedi ymddangos gerbron llys wedi’i gyhuddo o droseddau rhyw hanesyddol.

Mae George Granville Gibson, 82, o Darlington, yn wynebu dau gyhuddiad o ymosod yn anweddus ar fachgen dan 14 oed, ynghyd â thri achos o ymosod yn anweddus ar ddyn.

Mae’r cyhuddiadau yn honni i’r troseddau gael eu cyflawni rhwng Mai 1979 a Chwefror 1988, a bod tri o bobol yn dwyn y cyhuddiadau.

Mae Llys Ynadon Newton Aycliffe wedi ei ryddhau ar fechnïaeeth ddiamod, gyda’r gorchymyn i ymddangos o flaen ei well yn Llys y Goron Teesside ar Ragfyr 6.

Wnaeth cyn-Archddeon Auckland ddim cyflwyno plê yn ystod y gwrandawiad heddiw (dydd Iau, Tachwedd 8).