Mae Tywysog Charled yn dweud y bydd yn rhoi’r gorau i ymgyrchu yn gyhoeddus pan fydd yn dod yn frenin.

Mae’n mynnu nad yw’n “dwp” a’i fod yn cydnabod y byddai ei gyfrifoldebau yn hollol wahanol pan fydd yn olynu ei fam.

O ran ei waith ymgyrchu, mae’r tywysog yn gefnogol o waith amgylcheddwyr, ac yn 1976 fe sefydlodd Ymddiriedolaeth y Tywysog gyda’r nod o helpu pobol ddifreintiedig.

“Nonsens llwyr”

“Dw i wedi trio gwneud yn siŵr fod popeth dw i’n ei wneud yn amhleidiol,” meddai.

“A dw i’n credu ei bod yn hanfodol cofio mai dim ond un sofran sydd – does dim lle i ddau.

“Felly, dydych chi ddim yn gallu bod yr un peth â’r sofran tra’ch bod yn Dywysog Cymru neu’n etifedd.

“Ond mae’r syniad fy mod yn mynd i barhau yn yr un modd, os bydd rhaid i mi olynu, yn nonsens llwyr gan fod y ddwy sefyllfa yn hollol wahanol.”  

Pen-blwydd

Daw ei sylwadau o raglen ddogfen gan y BBC Prince, Son And Heir: Charles At 70, sy’n nodi ei ben-blwydd yn 70 blwydd oed.

Bydd y rhaglen ddogfen yn cael ei ddarlledu heno (Tachwedd 8) ar BBC One, ac mae’n dangos sawl agwedd o’i fywyd – yn ei fywyd cyhoeddus a phreifat.