Y Rhosyn ar ei ffurf bresennol
Mae arbenigwyr marchnata wedi galw ar y Blaid Lafur i newid eu logo, sef y rhosyn coch.

Cafodd y rhosyn ei fabwysiadu 25 mlynedd yn ôl, yn y gobaith y byddai o fudd i’r blaid wrth ennill tir yn ne Lloegr.

Ond ar drothwy cynhadledd flynyddol y blaid, fydd yn dechrau yn Lerpwl yfory, mae arbenigwyr wedi pleidleisio mai’r rhosyn yw’r salaf o logos y prif bleidiau.

“Cafodd y rhosyn coch ei wfftio yn gyfan gwbl gan y gymuned marchnata,” meddai Simon Bassett o gwmni marchnata EMR, y cwmni gynhaliodd yr arolwg.

Disodlodd y rhosyn coch y fflag goch yn 1986, wrth i’r pennaeth marchnata Peter Mandelson ddadlau fod angen troi cefn ar y ddelwedd oedd yn awgrymu sosialaeth filwriaethus.

Ond er bod y rhosyn yn “Brydeinig” roedd angen delwedd “modern a gwahanol” ar y blaid, yn ôl casgliadau’r arolwg. Roedd angen rhagor o liw fel ei bod yn “llai diflas”.

“Mae’n amlwg mai polisïau, arweinwyr a gallu’r pleidiau i gyfathrebu yw’r pethau pwysicaf wrth ennill pleidleisiau,” meddai Simon Bassett.

“Ond mae logos yn bwysig hefyd. Maen nhw’n cynrychioli hunaniaeth pob plaid.”

Roedd yr ymatebion a gafwyd i’r arolwg hefyd yn annog newid rhywfaint ar logo’r Ceidwadwyr, sef y dderwen.

Ffagl danllyd oedd symbol y blaid cyn ethol David Cameron yn arweinydd yn 2005.

“Mae’r dderwen yn ymdrech i bwysleisio cryfder, dygnwch, adferiad a thwf y blaid – ond roedd yr arbenigwyr yn teimlo fod angen newid y ddelwedd ei hun sydd braidd yn flêr,” meddai Simon Bassett.

Roedd newyddion gwell i bartneriaid y Ceidwadwyr yn y glymblaid. Yn ôl arbenigwyr roedd aderyn melyn y Democratiaid Rhyddfrydol yn cynrychioli egwyddor sylfaenol y blaid – sef rhyddid.