Mi fydd mwy o bobol tramor yn cael ymuno a lluoedd arfog Prydain wrth i ofynion preswyl ar gyfer gwasanaethu gael eu diddymu.

Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn dileu’r angen i ddinasyddion y Gymanwlad fod wedi byw yn y Deyrnas Unedig am bum mlynedd cyn gwneud cais, cyhoeddwyd heddiw (Tachwedd 5).

Y gobaith yw y bydd 1,350 o dramorwyr yn ymuno a’r Llynges, y Fyddin a’r Awyrlu bob blwyddyn.

Cyn rŵan, roedd uchafswm o 200 bob blwyddyn. Bydd ceisiadau o wledydd y Gymanwlad fel India, Awstralia, Canada a Fiji yn cael eu hystyried.

Ym mis Ionawr, cyhoeddodd y Fyddin bod ymgyrch recriwtio wedi costio £1.6 miliwn gyda’r gobaith o ddenu pobol o gefndiroedd amrywiol.

“Gorfodi cywirdeb gwleidyddol”

Dywedodd y Cyrnol Richard Kemp, cyn-gadlywydd y lluoedd Prydeinig yn Afghanistan, bod y Fyddin, fel gweddill y Llywodraeth yn cael “ei orfodi lawr llwybr o gywirdeb gwleidyddol.

“Beth sy’n bwysig yw bod y Fyddin yn recriwtio ac yn llawn milwyr. Mae adlewyrchu cyfansoddiad cymdeithas yn dod yn ail.”