Mae Tommy Robinson, arweinydd y grŵp asgell-dde eithafol, English Defence League (EDL) – wedi cael ei ryddhau o amodau ei fechnïaeth.

Mewn gwrandawiad byr, cyhoeddodd y barnwr Nicholas Hilliard QC nad yw’r ymgyrchydd – ei enw go iawn yw Stephen Yaxley-Lennon – yn gaeth i amodau ei fechnïaeth ar ôl i’r achos o ddirmyg llys gael ei gyfeirio at y Twrnai Cyffredinol.

Cafodd Tommy Robinson ei ryddhau o’r carchar ym mis Awst ar ôl i dri beirniad ddileu achos dirmyg llys yn ei erbyn yn dilyn achos yn Llys y Goron Leeds.

Er hynny, gallai Tommy Robinson gael ei anfon yn ôl i’r carchar os yw’n cael ei amau o ddirmyg llys eto drwy ffilmio pobol mewn achos llys yn Huddersfield, Leeds, a darlledu’r fideo ar y cyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd swyddfa’r Twrnai Cyffredinol eu bod yn edrych ar y deunydd “o’r newydd” cyn penderfynu a ddylid cyfeirio Tommy Robinson at yr Uchel Lys ar gyhuddiad o ddirmyg llys.

Yn y cyfamser mae ’na adroddiadau y gallai Tommy Robinson wneud dros £1 miliwn wrth fynd ar daith bosib i’r Unol Daleithiau yn ddiweddarach y mis yma.

Yn ôl y son, mae’n aros i glywed a fydd yn cael fisa gan yr awdurdodau yn yr Unol Daleithiau ar hyn o bryd.