Wythnos union cyn Sul y Cofio, mae gardd goffa yng Nghaeredin wedi cael ei dinistrio gan fandaliaid.

Dywed yr heddlu fod y digwyddiad yng ngerddi Princes Street fore ddoe (dydd Sadwrn, Tachwedd 3) yn un “maleisus”.

Cafodd croesau pren ac arwyddion eu difetha, ac eitemau lu wedi’u taflu ar draws y gerddi.

Mae mwy na 8,000 o babïau wedi’u plannu yn y gerddi bob blwyddyn, yn deyrnged i’r rhai sydd wedi gwasanaethu’r lluoedd arfog ac sy’n parhau i wneud hynny.

Mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth.