Mae Heddlu Scotland Yard wedi enwi llanc 17 oed a gafodd ei drywanu i farwolaeth yn Llundain ddydd Gwener.

Cafodd Malcolm Mide-Madariola o Peckham ei drywanu ger Balham Hill am oddeutu 4.35yh.

Roedd yn fyfyriwr yn y coleg yn Clapham.

Mae ymchwiliad ar y gweill.