Mae dau draean o bobol yng Ngweriniaeth Iwerddon a bron i hanner trigolion Gogledd Iwerddon yn credu y dylai’r Wladwriaeth roi mwy o gefnogaeth i’r Wyddeleg, yn ôl ymchwil newydd.

Mae’r ffigurau’n arwydd o gynnydd sylweddol, yn ôl Conradh na Gaeilge, sydd wedi cwblhau’r gwaith ymchwil ar y cyd â Kantar Millward Brown a Cinnteacht.

Bydd adroddiad yn seiliedig ar yr ymchwil yn cael ei gyhoeddi yn y Seiminar an Oireachtais yn Killarney.

Yn ôl yr ymchwil:

  • mae 66% yng Ngweriniaeth Iwerddon a 47% yng Ngogledd Iwerddon yn credu y dylai’r Wladwriaeth wneud mwy i gefnogi’r iaith Wyddeleg.
  • mae 70% yng Ngweriniaeth Iwerddon a 55% yng Ngogledd Iwerddon yn credu y dylai gwasanaethau cyhoeddus fod ar gael yn yr iaith Wyddeleg i’r rhai sy’n dymuno eu cael nhw yn yr iaith honno.
  • mae 67% yng Ngweriniaeth Iwerddon o’r farn y dylai fod gan y prif ddinasoedd ganolfannau iaith Wyddeleg i ddarparu gwybodaeth, dosbarthiadau a digwyddiadau cymdeithasol drwy gyfrwng yr iaith Wyddeleg.
  • mae 72% o’r farn y dylai’r Wladwriaeth gynnig adnoddau hanfodol er mwyn sicrhau dyfodol y Gaeltacht, y gymuned o siaradwyr yr iaith Wyddeleg.
  • mae 78% yng Ngweriniaeth Iwerddon a 67% yng Ngogledd Iwerddon yn credu y dylai fod gan bob plentyn y dewis i gael mynediad i addysg yn yr iaith Wyddeleg.