Mae’r BBC wedi cael ei feirniadu am roi llwyfan ar un o’u prif raglenni materion cyfoes i un o gefnogwyr mwyaf dadleuol Brexit sy’n destun ymchwiliad troseddol.

Mae’r biliwnydd Arron Banks yn wynebu ymchwiliad gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, ar ôl i’r Comisiwn Etholiadol ddweud fod sail resymol o gredu nad ef oedd ‘gwir ffynhonnell’ £8 miliwn o gyfraniad i ymgyrch Leave.EU.

Mewn llythyr at y BBC, dywed Andrew Adonis, un o arglwyddi’r Blaid Lafur ac ymgyrchydd blaenllaw yn erbyn Brexit, fod y gwahoddiad i Arron Banks ymddangos ar raglen Andrew Marr fore yfory “yn gamgymeriad golygyddol difrifol iawn”.

Dywedodd fod hyn yn arwydd o’r “diwylliant o blygu glin i Brexiteers eithafol sydd bellach yn rhan annatod o’r BBC.”

Mae Caroline Lucas a Molly Scott Cato o’r Blaid Werdd hefyd wedi beirniadu’r BBC am ganiatáu i Arron Banks “ledaenu gau-wybodaeth”.

Mae’r Comisiwn Etholiadol yn amau Arron Banks o guddio tarddiad arian a gyfrannodd at Leave.EU a bod yr arian wedi ei gyfrannu’n anghyfreithlon trwy gwmni ar Ynys Manaw.

Mewn ymateb, dywedodd y BBC mewn datganiad fod cyfweliad ag Arron Banks o fudd i’r cyhoedd.