Mae Taoiseach Iwerddon wedi rhybuddio bod Brexit yn tanseilio 20 mlynedd o heddwch yng Ngogledd Iwerddon.

Wrth siarad ar radio RTE, dywedodd Leo Varadkar:

“Mae Brexit wedi tanseilio Cytundeb Dydd Gwener y Groglith ac mae’n niweidio’r berthynas rhwng Prydain ac Iwerddon.

“Mae unrhyw beth sy’n rhannau’r ddwy gymuned yng Ngogledd Iwerddon yn tanseilio Cytundeb Dydd Gwener y Groglith ac mae unrhyw beth sy’n tynnu Prydain ac Iwerddon oddi wrth ei gilydd yn tanseilio’r berthynas honno.”

Daw ei rybudd ar ôl galwad gan gadeirydd pwyllgor Brexit senedd Iwerddon ar y Comisiwn Ewropaidd i sefyll yn gadarn dros gynllun penodol wrth gefn i rwystro ffin galed yn Iwerddon.

“Rhaid inni weithio i sicrhau nad fydd ffin galed gan fod hynny’n fygythiad i’r 20 mlynedd o heddwch brau ers Cytundeb Dydd Gwener y Groglith,” meddai’r Seneddwr Neale Richmond.

“Gadewch inni ganolbwyntio ar hynny o flaen popeth arall.”