O wledydd gorllewin Ewrop gyfan, gwledydd Prydain sydd â’r cydbwysedd gwaethaf rhwng gwaith ac amser hamdden.

Dyna yw casgliad arolwg 20 o wledydd ledled y byd gan gynnwys yr Unol Daleithiau, Groeg, Siapan a De Corea.

Mae’n debyg bod y Deyrnas Unedig uwchben y gwledydd rheiny yn safle 16, tra bod gwledydd Sgandinafia ar frig y rhestr.

Yn ôl yr adroddiad mae un o bob wyth oedolyn yng ngwledydd Prydain yn gweithio dros 50 awr yr wythnos, ac felly mae ganddyn nhw llai o amser rhydd na’u cefndryd ar y cyfandir.

Daw’r canfyddiadau o waith ymchwil cwmni esgidiau Mahabis.

“Mae pwysau a straen bywyd modern wedi cael effaith ar y cydbwysedd rhwng gwaith ac amser hamdden,” meddai Ankur Shah, sefydlydd Mahabis. “Mae hyn yn sicr yn wir yn y Deyrnas Unedig.”