Yn Nhŷ’r Cyffredin mae’r Canghellor Philip Hammond wedi bod yn cyhoeddi ei Gyllideb ar gyfer eleni.

Dyma oedd ei Gyllideb olaf cyn i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd (UE).

Dywedodd y Canghellor bod y cyfnod o lymder yn “tynnu tua’r terfyn” a bod hon yn Gyllideb a fydd yn arwain at “ddyfodol mwy llewyrchus.”

Fe fydd Llywodraeth Cymru yn elwa o fwy na hanner biliwn o bunnau ychwanegol,  meddai’r Canghellor. Yn ogystal fe fydd £120 miliwn ar gyfer Cytundeb Twf Gogledd Cymru.

Brexit

Mae’r Canghellor wedi neilltuo £500 miliwn ychwanegol ar gyfer adrannau’r llywodraeth i baratoi ar gyfer dim cytundeb Brexit. Mae hyn yn ychwanegol i’r £2.2 biliwn sydd eisoes wedi’i gyhoeddi a’r £1.5 biliwn a gyhoeddwyd yn natganiad y gwanwyn.

Dywedodd eu bod yn paratoi ar gyfer pob canlyniad posib, ac fe awgrymodd y byddai’n cynnal cyllideb frys petai dim cytundeb gyda’r Undeb Ewropeaidd.

Twf

  • Mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR) wedi darogan y bydd yr economi yn tyfu’n fwy na’r disgwyl yn 2019 o 1.3% i 1.6%. Wedyn 1.4% yn 2020, 1.4% yn 2021, a 1.5% yn 2022 a 1.6% yn 2023.
  • Mae’r OBR hefyd yn rhagweld y bydd 800,000 yn rhagor o swyddi erbyn 2023 ac y bydd cyflogau’n tyfu yn flynyddol yn ystod y pum mlynedd nesaf. Fe fydd y diffyg hefyd yn gostwng i lai na 1.4% y flwyddyn nesaf, gan ostwng i 0.8% erbyn 2023/24, yn ôl yr OBR.

Benthyca

Mae disgwyl i fenthyca fod £11.6 biliwn yn llai na’r hyn gafodd ei ddarogan yn natganiad y gwanwyn. Mae hyn yn gyfystyr a 1.2% o GDP.

  • Y darogan yw y bydd benthyca yn gostwng o £31.8bn yn 2019-20, i £26.7bn yn 2020-21, £23.8bn yn 2021-22, £20.8bn yn 2022-23 a £19.8bn yn 2023-24.

Gofal cymdeithasol ac iechyd

Mae’r Canghellor wedi rhoi addewid o wariant ychwanegol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae disgwyl i’r Gwasanaeth Iechyd (GIG) gael hwb o £20.5 biliwn dros y pum mlynedd nesaf. Fe fydd gwasanaeth argyfwng arbennig ar gyfer iechyd meddwl yn cael ei gynnwys yng nghynllun 10 mlynedd y GIG.

Fe fydd £650 miliwn ar gyfer awdurdodau lleol yn Lloegr sy’n ei chael yn anodd ymdopi gyda chostau cynyddol am ofal.

Credyd Cynhwysol

Mae Philip Hammond wedi cyhoeddi pecyn o fesurau gwerth £1 biliwn dros gyfnod o bum mlynedd tuag at gyflwyno Credyd Cynhwysol. Fe fydd yn cynyddu lwfans gwaith Credyd Cynhwysol o £1,000 y flwyddyn i helpu 2.4 miliwn o rieni sy’n gweithio a phobol gydag anableddau, a fydd yn rhoi tal ychwanegol o £630 y flwyddyn.

Gwrth-frawychiaeth

Fe fydd £1 biliwn ychwanegol yn cael ei roi i’r Weinyddiaeth Amddiffyn a £160 miliwn ar gyfer plismona gwrth-frawychiaeth.

Ffyrdd

Tal o £420 miliwn i fynd i’r afael a thyllau yn y ffyrdd, atgyweirio pontydd a gwaith ffordd arall.

Treth

Bydd Treth Gwasanaethau Digidol yn cael ei chyflwyno yn y Deyrnas Unedig ym mis Ebrill 2020 a fydd yn targedu cwmnïau mawr ar-lein sydd â refeniw o fwy na £500 miliwn, fel Google, Amazon a Facebook.

Ni fydd y Cynllun Ariannu Preifat (PFI) na’i olynydd PFI2 yn cael ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau’r Llywodraeth yn y dyfodol.