Mae’r Ysgrifennydd Iechyd, Matt Hancock, wedi dweud na fydd arian ychwanegol i’r Gwasanaeth Iechyd (GIG) yn cael ei effeithio os na fydd cytundeb Brexit, er i’r Canghellor Philip Hammond ddweud fel arall.

Dywedodd Matt Hancock wrth y BBC ar raglen Today bod y “£20 biliwn ychwanegol i’r GIG yn dod.”

Ond mae Philip Hammond wedi dweud y byddai’n gorfod ail-ystyried ei gynlluniau economaidd os yw Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.

Mae’r Gyllideb yn cael ei chyhoeddi prynhawn ma (Dydd Llun, Hydref 29).

Dywedodd llefarydd ar ran y Prif Weinidog Theresa May y bydd unrhyw gyhoeddiad sy’n cael ei wneud yn y Gyllideb yn cael ei ariannu ac na fyddai cytundeb Brexit da neu ddrwg yn gwneud gwahaniaeth.