Mae’r BBC wedi cyhoeddi mai Sara Cox fydd cyflwynydd newydd sioe Drivetime Radio 2.

Mae’r DJ yn olynu Simon Mayo, sy’n gadael Radio 2, a Jo Whiley yn y rhaglen gyda’r nos.

Wrth i’r newyddion gael ei gyhoeddi dywedodd Sara Cox ei bod wrth ei bodd a’i bod yn addo chwarae “cerddoriaeth ardderchog”.

Fe fu Simon May yn cyflwyno’r sioe ers wyth mlynedd ond fe gyhoeddodd yn ddiweddar ei fod yn gadael er mwyn canolbwyntio ar ysgrifennu.

Cafodd Jo Whiley ei phenodi fel cyd-gyflwynydd iddo ym mis Mai ond fe fu ymateb chwyrn i’r penderfyniad ymhlith gwrandawyr.

Mae Sara Cox ar hyn o bryd yn cyflwyno rhaglen hwyr 10yh tan hanner nos ar Radio 2.

Roedd hi’n un o’r ffefrynnau i gael ei dewis i olynu Chris Evans ar ei sioe frecwast ar Radio 2 ond fe gyhoeddwyd mai Zoe Ball oedd wedi ei phenodi i’r swydd.