Gall pobol ddweud beth bynnag maen nhw eisiau ei ddweud am bobol eraill, meddai’r dyn busnes Syr Philip Green, wrth ymateb i honiadau o droseddau rhyw yn ei erbyn.

Mae honiadau bod pennaeth Topshop wedi camdrin staff yn rhywiol a hiliol, ond mae’n eu gwadu.

Cafodd ei enwi gan yr Arglwydd Peter Hain, cyn-Aelod Seneddol Castell-nedd, a ddefnyddiodd fraint seneddol arbennig i fynd yn groes i waharddiad ar y Daily Telegraph rhag cyhoeddi ei enw.

Ond yn ôl Syr Philip Green mewn cyfweliad â’r Mail on Sunday, mae e wedi cael ei “dargedu”, ac mae ei deulu a’i fusnes wedi dioddef o ganlyniad.

“Mae’n stori frawychus,” meddai wrth y papur newydd. “Gall rhywun ddweud beth bynnag maen nhw eisiau ei ddweud ac mae pobol yn eich dilyn chi o gwmpas, yn eich cwrso chi ac yn eich aflonyddu chi.”

Dywedodd nad oedd e erioed wedi gwneud unrhyw beth gyda’r bwriad o sarhau unrhyw un, ac nad oedd unrhyw un wedi cwyno amdano cyn hyn.

Cwyno

Mae Syr Philip Green eisoes wedi dweud ei fod yn bwriadu cwyno am ymddygiad yr Arglwydd Peter Hain.

Mae’n honni nad oedd y cyn-weinidog Llafur wedi datgan y cysylltiad rhyngddo fe a’r cwmni cyfreithiol sydd yn cynrychioli’r Daily Telegraph.

Ond yn ôl yr Arglwydd Hain, doedd e ddim yn ymwybodol o’r cysylltiad gyda chwmni Gordon Dodds, ac mae e’n gwrthod ymddiheuro am “sefyll i fyny dros hawliau dynol”.