Gallai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb arwain Llywodraeth Prydain i lunio strategaeth economaidd newydd, yn ôl Canghellor San Steffan, Philip Hammond.
Ar noswyl y Gyllideb, mae’r Canghellor yn rhybuddio y bydd ei Gyllideb ddydd Llun yn rhagdybio y bydd modd dod i gytundeb â Brwsel cyn Brexit.
“Pe baen ni’n gadael yr Undeb Ewropeaidd heb unrhyw fath o gytundeb – a dw i’n credu bod honno’n sefyllfa annhebygol ond wrth gwrs, mae’n rhaid i ni baratoi a chynllunio ar gyfer pob canlyniad, fel y byddai unrhyw lywodraeth ofalus yn ei wneud – yna byddai angen cymryd camau gwahanol ar gyfer dyfodol economi Prydain,” meddai Philip Hammond wrth raglen Sophy Ridge on Sunday ar Sky News.
“Byddai angen i ni edrych ar strategaeth wahanol ac, a siarad yn blwmp ac yn blaen, byddai angen i ni gael Cyllideb newydd yn amlinellu strategaeth wahanol ar gyfer y dyfodol.”