Mae’r dyn busnes Syr Philip Green yn bwriadu cwyno’n swyddogol ar ôl i’r Arglwydd Peter Hain ddatgan ei fod yn wynebu cyhuddiadau o aflonyddu rhywiol a chamdrin hiliol.

Defnyddiodd yr Arglwydd Hain hawl seneddol arbennig i enwi cyn-gadeirydd Arcadia fel yr un sydd wedi ennill achos llys sy’n atal y Daily Telegraph rhag cyhoeddi “gwybodaeth gyfrinachol” sydd wedi’i rhoi gan bump o’i weithwyr.

Yn ôl Syr Philip Green, doedd yr Arglwydd Hain ddim wedi datgan fod ganddo berthynas ariannol â chyfreithwyr y Daily Telegraph, Gordon Dodds, ond dywedodd y cyn-Aelod Seneddol dros Gastell-nedd nad oedd yn ymwybodol o’r cysylltiad rhyngddyn nhw.

Mewn datganiad, dywedodd Syr Philip Green fod yr Arglwydd Hain “wedi torri Cod Ymddygiad Tŷ’r Arglwyddi ac wedi “llwyr anwybyddu” dyfarniad tri barnwr, a bod hynny’n “warthus”.

“Os nad oedd e wedi darllen y dyfarniad, ar ba sail roedd e’n siarad amdano? Os oedd e wedi gwenud, mae enw Gordon Dodds ar y dudalen flaen.

“Byddaf yn cwyno’n swyddogol wrth yr awdurdodau perthnasol yn Nhŷ’r Arglwyddi.”

Amddiffyn ei weithred

Dywedodd yr Arglwydd Hain ei fod yn teimlo “dyletswydd” i enwi Syr Philip Green, er i arbenigwyr cyfreithiol ei feirniadu am wneud hynny yn ystod yr achos.

Dywedodd iddo wneud y penderfyniad fel unigolyn, gan ategu nad oedd yn ymwybodol o’r cyswllt rhwng y papur newydd a’r cyfreithwyr.

Ychwanegodd nad oedd gan y cwmni cyfreithiol “unrhyw ran o gwbl” yn ei benderfyniad i enwi’r dyn busnes nac yn y broses o gasglu gwybodaeth amdano, ac nad oedden nhw’n gwybod ei fod am ei enwi cyn iddo wneud hynny.

Gwadu’r honiadau

Mae Syr Philip Green wedi ategu ei fod yn “gwadu’r honiadau’n llawn”.

Ond fe wrthododd wneud sylw pan gafodd ei holi gan dîm Sky News ddydd Gwener. Roedden nhw wedi dod o hyd iddo ar ei wyliau yn Tuscon, Arizona.

Dywedodd wrth ohebydd, “Mae angen i chi adael. Allwch chi fynd i ffwrdd? Rwy’n credu eich bod yn ymwthiol.”

Karen Brady yn rhan o’r helynt

Yn y cyfamser, mae disgwyl i’r Farwnes Karen Brady, un o’r beirniaid ar y rhaglen ‘The Apprentice’, wneud sylw ddydd Llun ar ôl i’r Telegraph dynnu sylw at ei chyswllt fel cadeirydd Taceta, sy’n rheoli cyfrannau Arcadia.

Yn ôl y cyn-Dwrnai Cyffredinol Dominic Grieve, mae’r Arglwydd Hain wedi ymddwyn yn “llwyr drahaus”, gan gamddefnyddio’i hawl seneddol wrth enwi Syr Philip Green.

Ar ôl cael ei enwi, mae galwadau ar i’r pwyllgor sy’n dyfarnu anrhydeddau ddadurddo Syr Philip Green yn farchog.