Mi fydd merched yn cael ceisio am unrhyw swydd yn y lluoedd arfog, gan gynnwys y Lluoedd Arbennig a’r Morlu Brenhinol, yn ôl cyhoeddiad gan y Llywodraeth.

Bydd hefyd hawl i ferched wneud cais i unedau arbenigol megis yr SAS a’r SBS sy’n ddatblygiad hanesyddol yn ôl y Weinyddiaeth Amddiffyn yn y Deyrnas Unedig.

Dywedodd yr ysgrifennydd amddiffyn, Gavin Williamson y byddai merched sydd yn y fyddin yn barod yn gallu trosglwyddo i unedau eraill yn syth. Bydd y broses recriwtio newydd yn dechrau ym mis Rhagfyr, a hyfforddi yn dechrau ym mis Ebrill 2019.

Er bod merched wedi gwasanaethu mewn parthau rhyfel ers blynyddoedd, nid oedd hawl ganddynt  “ymladd ar dir agos” cyn i’r gwaharddiad gael ei ddiddymu yn 2016 gan y cyn-Brif Weinidog David Cameron.

“Mae’n rhaid i ni esblygu a newid yn gyson a dyna’r hyn yr ydym yn ei wneud,” meddai Gavin Williamson, cyn ychwanegu ei “bod yn holl bwysig rhoi cyfle i bawb yn y wlad hon ymuno a’n lluoedd arfog a chwarae rhan lawn a phriodol.”